Cwynodd Mr T fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu â darparu ymateb i’w gŵyn a wnaeth ar 26 Medi 2022. Cwynodd Mr T hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod ystyried ei bryder mwy diweddar fel rhan o atodiad i’w gŵyn wreiddiol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth o gamweinyddu ym mhenderfyniad y Bwrdd Iechyd i beidio ag ymdrin â’r pryder newydd fel atodiad. Fodd bynnag, penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd, mewn perthynas â’r gŵyn wreiddiol, wedi methu â darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac nad oedden nhw wedi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr T, rhoi esboniad dros yr oedi a’r diffyg diweddariadau rheolaidd ac ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.