Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a roddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) i’w wraig ar ôl cael ei derbyn i’r ysbyty. Dywedodd Mr A nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd yn mynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd, felly anfonodd lythyr arall ym mis Mawrth 2023. Cwynodd Mr A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r llythyr hwn.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn aros am ragor o wybodaeth gan drydydd parti a’i fod wedi cysylltu â Mr A ym mis Mai 2023 i egluro y gallai’r ymateb gael ei oedi. Serch hynny, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd cwyn Mr A wedi cael sylw er boddhad iddo, felly byddai’n ddefnyddiol iddo gael ymateb a oedd yn mynd i’r afael â’r pwyntiau yr oedd yn anghytuno â nhw.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ysgrifenedig i’w lythyr i Mr A o fewn 21 diwrnod gwaith. Cafodd y cam hwn ei dderbyn yn lle ymchwiliad.