Cwynodd Mr F am y ffordd yr ymdriniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â’i gŵyn am y gofal a’r driniaeth a roddwyd gan y tîm adnoddau iechyd meddwl.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu rhoi gwybod i Mr F am y camau cychwynnol yr oedd wedi’u cymryd i ddatrys ei bryderon ac wedi methu cydnabod bod ei gŵyn wedi cael ei chofnodi. Ar ben hynny, canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod wrth gofnodi ei gŵyn ac nad oedd ymateb i gŵyn wedi cael ei gyhoeddi. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro a darparu esboniadau am y methiannau a nodwyd, ac i gyhoeddi ymateb i gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.