Dyddiad yr Adroddiad

03/27/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202303635

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y diffyg cyswllt a chymorth gan dîm CMHT Conwy rhwng Mehefin 2022 a Chwefror 2023 er bod cynllun gofal a thriniaeth yn ei le.
Derbyniodd y Bwrdd Iechyd nad oedd cyswllt wedi bod gan y CMHT dros y cyfnod hwn ac nad oedd cofnodion gofal ar gyfer Mr X rhwng Medi 2021 a Chwefror 2023.
Yn ei ymateb i’r gŵyn, ymddiheurodd y Bwrdd Iechyd i Mr X am y methiant gan amlinellu’r camau a gymrodd i atal hyn rhag digwydd eto. Roedd hyn yn cynnwys archwilio nodiadau agored cleifion i gadarnhad nad oes bylchau eraill yn y gwaith papur. Eglurodd hefyd i’r Ombwdsmon ei fod wedi cyflwyno rhagofalon i’w system gan gynnwys taenlen electronig i gofnodi’r cyswllt diwethaf â chleifion fel y byddai unrhyw gyswllt hwyr / heb ddigwydd â chleifion yn cael ei amlygu.

Roedd yr Ombwdsmon yn poeni nad oedd prosesau’r CMHT efallai’n drylwyr i sicrhau nad oedd cleifion yn cael eu hanghofio. Felly cytunodd y Bwrdd Iechyd (o fewn deufis) i:
• Adolygu system y CMHT o adnabod pan fydd adolygiad o gynllun gofal a thriniaeth yn hwyr.
• Archwilio ac adolygu’r gwelliannau a wnaeth i brosesau’r CMHT yn dilyn y gŵyn i sicrhau bod y system bresennol yn un drylwyr.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i roi ymateb ychwanegol i gŵyn Mr X yn trafod y mater o atebolrwydd perthnasol yn unol â’r rheoliadau.