Cwynodd Miss A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu â darparu adolygiad annibynnol o’i gofal gynaecolegol a’i fod wedi methu ag ymateb i’w phryderon yn brydlon.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd adolygiad i ofal gynaecolegol Miss A wedi’i gwblhau o hyd er iddo gael ei gyhoeddi ym mis Mai 2023. Bu’n rhaid i Miss A hefyd gysylltu â’r Ombwdsmon fwy nag unwaith i ddatrys ei chŵyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a derbyniodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r adolygiad annibynnol i ofal gynaecolegol Miss A ac i gynnig iawndal ariannol o £250 iddi am yr amser a’r drafferth a achoswyd i ddatrys ei chŵyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau rhoi’r camau hyn ar waith cyn pen 30 diwrnod gwaith.