Dyddiad yr Adroddiad

04/26/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202400400

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu â darparu ymateb i’w gŵyn a wnaeth iddo ym mis Ionawr 2024.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod cwyn Mr A, ond nad oedd wedi rhoi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon, ac nad oedd wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr A, o fewn pythefnos, i ymddiheuro am y diffyg diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac am yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 8 wythnos.