Dyddiad yr Adroddiad

14/06/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202401891

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs V fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu darparu ymateb i’r gŵyn a wnaeth ym mis Awst 2023 am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar ŵr.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Mrs B, a’i fod wedi methu â rhoi ymateb i gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon geisio a chael cytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs B i ymddiheuro am y methiannau a nodwyd ac i roi ymateb i’r gŵyn o fewn 20 diwrnod gwaith.