Dyddiad yr Adroddiad

27/09/2024

Achos yn Erbyn

Iechyd

Pwnc

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cyfeirnod Achos

202401254

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am yr amseroedd aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio. Cwynodd na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) ymateb i’w gŵyn o fewn yr amserlen y cytunwyd arni, h.y. 30 diwrnod gwaith.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mr A, ond y bu oedi o 52 diwrnod gwaith. Nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro i Mr A am yr oedi. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ysgrifennu at Mr A, o fewn chwe wythnos, yn ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb i’w gŵyn, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.