Dyddiad yr Adroddiad

06/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202402943

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr a Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi cofnodion clinigol eu perthynas iddynt ac wedi derbyn eu cwyn ynglŷn â’i gofal a’i thriniaeth, ond nad oedd yn fodlon rhannu canlyniad ei ymchwiliad. Dywedodd Mr a Mrs A nad oedd gan eu perthynas alluedd. Dywedodd y Bwrdd Iechyd nad oedd ganddo’r awdurdodiad cywir i ddatgelu’r wybodaeth i Mr a Mrs A.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd yn glir sut y penderfynodd y Bwrdd Iechyd pa wybodaeth y gallai ei datgelu i Mr a Mrs A am eu perthynas. Er bod y cofnodion wedi cael eu darparu, dywedodd y Bwrdd Iechyd fod angen iddo gael tystiolaeth o Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer Iechyd a Lles fel awdurdodiad i ddatgelu canlyniad yr ymchwiliad. Penderfynodd yr Ombwdsmon fod hyn yn afresymol am na ellir dangos tystiolaeth o Atwrneiaeth Arhosol os na chafodd ei gwneud cyn i berson golli galluedd. Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd yn glir sut y gellid arfer hawliau perthynas Mr a Mrs A pe na bai canlyniad yr ymchwiliad yn cael ei rannu. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd adolygu ei benderfyniadau ynghylch rhoi gwybodaeth i Mr a Mrs A yn unol â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol, a rhoi ymateb ffurfiol iddynt yn cynnwys esboniadau clir, adolygu ei weithdrefn ar gyfer penderfynu ar ddatgelu gwybodaeth i bobl sy’n cynrychioli person heb alluedd yn unol â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol,  ac ystyried llunio canllawiau ar gyfer achwynwyr/unigolion sy’n gofyn am wybodaeth ar ran person heb alluedd, sy’n glir ac yn cydymffurfio â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau hyn o fewn 20 diwrnod gwaith.