Cwynodd Ms S na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddo ym mis Rhagfyr 2023.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Ms S. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ysgrifennu at Ms S yn ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn, yn cynnig £150 i Ms S yn gydnabyddiaeth am yr amser a’r drafferth a gymerodd iddi wneud cwyn i’r Ombwdsmon, ac ymateb i’r gŵyn o fewn chwe wythnos galendr, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.