Cwynodd Mrs X na wnaeth ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’w chŵyn fynd i’r afael â’i phryderon.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ail-ymchwilio i gŵyn Mrs X, ond na lwyddodd i ddarparu ymateb i’w chŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs X o fewn pythefnos i ymddiheuro ac i esbonio am yr oedi, cyhoeddi ei hymateb i’r gŵyn a chynnig taliad gwneud iawn o £50 i gydnabod yr oedi, yr amser a’r drafferth, a’r angen i gysylltu â’r Ombwdsmon.