Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb i’w gŵyn am yr ysbyty cyntaf, ond nad oedd wedi mynd i’r afael â phryderon a oedd heb eu datrys ynghylch y driniaeth a gafodd yn yr ail ysbyty. Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w bryderon ynghylch yr ysbyty cyntaf, ei fod wedi colli cyfleoedd i geisio sylwadau am y driniaeth a gafodd yn yr ail ysbyty. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ac esboniad i Mr X o fewn pythefnos am yr oedi, ac i gyhoeddi ymateb pellach mewn ymateb i’r pryderon a oedd heb eu datrys mewn perthynas â’r driniaeth a gafodd yn yr ail ysbyty.