Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu darparu ymateb i’w chŵyn am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar fab tra’r oedd yn yr ysbyty.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i gŵyn Mrs X na darparu diweddariadau rheolaidd iddi. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 4 wythnos, yn ymateb i’r gŵyn, yn ymddiheuro ac yn darparu eglurhad am yr oedi a’r diffyg diweddariadau rheolaidd, ac yn cynnig talu £100 i Mrs X i wneud iawn am yr amser a’r drafferth o ran cyflwyno ei chŵyn i’r Ombwdsmon.