Cwynodd Mrs G fod staff y Bwrdd Iechyd, ar ôl i’w mab bach, J, ddisgyn o wely, wedi gwneud cyfres o gamgymeriadau ac wedi cynnal gweithdrefnau meddygol diogelu plant mewn ffordd a oedd yn anghymwys, yn annheg, yn anghytbwys ac yn ddiofal. Dywedodd Mrs G fod y rheini nad oeddent yn radiolegwyr pediatrig wedi rhoi diagnosis anghywir o doriadau niferus a bod eu canfyddiadau wedi’u cyfathrebu i asiantaethau eraill fel rhai cywir a therfynol.
Dywedodd Mrs G nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd yn ei chŵyn, nad oedd digon o fanylion ynddo ac na rannwyd barn arbenigwyr â hi. Yn dilyn cwyn Mrs G, trefnwyd cyfarfod gyda staff y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys radiolegwyr, i drafod y pryderon a oedd heb eu datrys.
Oherwydd hynny, fe wnaethom gysylltu â’r Bwrdd Iechyd, a gytunodd i wneud y canlynol:
a) I anfon ymateb ysgrifenedig pellach at Ms G i gynnwys mewnbwn uniongyrchol Radiolegwyr i adlewyrchu’n llawn yr hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod.
b) Dylai’r ymateb ysgrifenedig gynnwys crynodeb o’r materion a drafodwyd mewn adolygiadau gan gymheiriaid gyda’r Radiolegwyr dan sylw, gan hepgor gwybodaeth bersonol.
I wneud cofnod yng nghofnodion J i gydnabod bod camgymeriad wedi’i wneud wrth gofnodi ei belydr-x o ran diagnosis o doriadau ychwanegol.