Cwynodd Mr T fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu cyhoeddi ymateb ysgrifenedig yn egluro’i ganfyddiadau a’i gasgliadau i’r pryderon a gododd am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar dad.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cwrdd â Mr T ar ddau achlysur i drafod yr ymchwiliadau ond nad oedd wedi dilyn hynny’n ysgrifenedig. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra ychwanegol i Mr T.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad a cheisiodd a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am beidio â rhoi ymateb ysgrifenedig ac i gyhoeddi ei ymateb o fewn 30 diwrnod gwaith.