Cwynodd Ms A na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ymateb i gŵyn a godwyd ganddi ynghylch amseroedd aros am lawdriniaeth.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi trafod ei ganfyddiadau dros y ffôn ond na roddodd ymateb ysgrifenedig i Ms A. Achosodd hyn ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi ymateb ysgrifenedig o fewn pythefnos, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.