Cwynodd Miss A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i gŵyn a godwyd ganddi ynghylch sut cafodd ei thrin gan Nyrs Practis Cymunedol.
Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi wrth ymateb i’r gŵyn gan fod dryswch ynghylch a fyddai angen i’r adran Adnoddau Dynol ymchwilio iddi. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Miss A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Miss A, o fewn wythnos, i ymddiheuro am yr oedi ac i egluro sut yr ymdriniwyd â’i chŵyn.