Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i’w llythyr, a anfonwyd ym mis Gorffennaf 2024, ynghylch ei thriniaeth barhaus ar gyfer ei anhwylder niwrolegol swyddogaethol (FND).
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r pryderon a godwyd. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n darparu ymateb ysgrifenedig (o fewn pum wythnos) i fynd i’r afael â phryderon Mrs X. Dylai’r llythyr hefyd gynnwys ymddiheuriad am yr oedi a’r esgeulustod wrth beidio ag ymateb yn gynt.