Cwynodd Mrs F na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ymateb i’r llythyr dilynol a anfonodd ato ar ôl cael ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn ym mis Mehefin 2024.
Canfu’r Ombwdsmon na wnaeth y Bwrdd Iechyd ymateb i lythyr dilynol Mrs F. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs F. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi ymateb pellach i Mrs F, gan gynnwys ymddiheuriad pellach am yr oedi, o fewn pedair wythnos galendr, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.