Dyddiad yr Adroddiad

21/09/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202303402

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms S ei bod wedi codi cwyn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ran ei mab dros 12 mis yn ôl ac nad oedd wedi cael ymateb.

Canfu’r Ombwdsmon bod oedi sylweddol wedi bod cyn cyflwyno ymateb i gŵyn Ms S, a bod y Bwrdd wedi methu gweithredu yn unol â’i weithdrefn gwynion statudol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael cytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms S am yr oedi, i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn, ac i roi taliad o £250 iddi fel cydnabyddiaeth o’i hamser a’i thrafferth o fewn 30 diwrnod gwaith.