Cwynodd Mrs M fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ymateb i’w chŵyn a gyflwynodd iddo ym mis Mai 2023.
Canfu’r Ombwdsmon na fu’n bosib i’r Bwrdd Iechyd gwblhau ei ymchwiliad yn sgil pwysau ar ei staff. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Mrs M. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Dywedodd yr Ombwdsmon y byddai’r Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro’n uniongyrchol i Mrs M ac yn cyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 20 diwrnod gwaith.