Dyddiad yr Adroddiad

08/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202401021

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i’w chŵyn a gyflwynwyd 8 mis yn ôl.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu ymateb i gŵyn o fewn amser rhesymol i Ms B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms B am yr oedi ac egluro iddi pam y digwyddodd hyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ddarparu’r ymateb terfynol i’r gŵyn (o fewn 4 wythnos) a chynnig iawndal ariannol o £150 i gydnabod yr oedi, yr amser a’r drafferth, a’r angen i fynd at yr Ombwdsmon.