Dyddiad yr Adroddiad

23/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202402555

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â threfnu profion niwropatheg rheolaidd, nad oedd wedi cael ei monitro dros y 6 blynedd diwethaf a’i fod wedi methu â threfnu profion sgrinio llygaid diabetig rheolaidd. Cwynodd Mrs A i’r Bwrdd Iechyd ar 29 Ebrill 2024 a dim ond dwy frawddeg gafodd hi fel ymateb. Teimlai nad oedd ei phryderon yn cael sylw digonol.

Cytunodd yr Ombwdsmon ar setliad/datrysiad cynnar gyda’r Bwrdd Iechyd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gynnal ymchwiliad i bryderon Mrs A ac i ddarparu ymateb i’r gŵyn iddi o dan y canllawiau Gweithio i Wella. Cytunodd i ddarparu hwn o fewn 1 mis o dderbyn dogfennaeth y gŵyn ac unrhyw eglurhad sydd ei angen gan Mrs A a’i heiriolwr er mwyn ymchwilio i’r gŵyn.