Cwynodd Mr D na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymateb i gwestiynau pellach yn dilyn ei ymateb i’w gŵyn, ar 18 Tachwedd 2023.
Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi sylweddol cyn i gwestiynau ychwanegol Mr D gael eu hateb. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ysgrifennu at Mr D, o fewn 6 wythnos, gan ateb ei gwestiynau ac ymddiheuro am yr oedi, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.