Cwynodd Mr D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â darparu ymateb i’w gŵyn, a wnaeth ym mis Mawrth 2023.
Canfu’r Ombwdsmon na wnaeth y Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr D er mwyn ymddiheuro ac esbonio’r oedi, cynnig iawndal o £50 i Mr D am yr amser a’r drafferth o wneud cwyn i’r Ombwdsmon, ac i ymateb i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod.