Cwynodd Mrs B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Mai 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cryn dipyn cyn rhoi ymateb i Mrs B. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs B, gan gynnwys esboniad am yr oedi, iawndal o £150, ac i ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.