Dyddiad yr Adroddiad

04/03/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202409342

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms L nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i gŵyn a wnaeth ym mis Mawrth 2024.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol cyn i’r Bwrdd Iechyd gyhoeddi ei ymateb i gŵyn Ms L, gan achosi rhwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 6 wythnos, yn ymddiheuro ac yn esbonio’r rhesymau dros yr oedi, yn darparu ymateb i’r gŵyn, ac yn cynnig iawndal o £150 i Ms L .