Dyddiad yr Adroddiad

05/01/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202105577

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y gofal a gafodd gan wasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn benodol, cwynodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu adnabod a rhoi diagnosis cywir o’i symptomau, a bod oedi afresymol cyn dechrau triniaeth briodol. Mynegodd Mrs A bryderon hefyd am gynnwys dwy sgwrs a gafodd gyda chlinigwyr a oedd yn gysylltiedig â’i gofal.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y diagnosisau a wnaed gan y Bwrdd Iechyd yn rhai rhesymol i’w gwneud ar y pryd. Ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael, nid oedd yr Ombwdsmon yn gallu dod i’r casgliad ychwaith bod y ddwy sgwrs dan sylw wedi bod yn afresymol. O ganlyniad, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agweddau hyn ar gwynion Mrs A.

Fodd bynnag, er nad oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod unrhyw dystiolaeth o fethiannau gan y Bwrdd Iechyd o ran y digwyddiadau a arweiniodd at benderfyniad i roi’r gorau i sesiynau Mrs A, nododd yr Ombwdsmon fod diffygion o ran y ffordd yr ymdriniwyd â’r penderfyniad i newid seicolegwyr a bod cyfathrebu gwael ar ran y Bwrdd Iechyd wedi cyfrannu at yr oedi cyn i Mrs A ailddechrau cael therapi. Felly, cafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau i’r graddau hynny.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis, ymddiheuro i Mrs A am y diffygion o ran cyfathrebu a nodwyd yn yr ymchwiliad.