Cwynodd Ms A am benderfyniad y Bwrdd Iechyd i beidio â chynnig asesiad anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (“ADHD”), er ei bod wedi cael asesiad a diagnosis o ADHD preifat o’r blaen. Cododd Ms A ragor o ymholiadau gyda’r Bwrdd Iechyd yn dilyn ei ymateb i’r gŵyn.
Fel rhan o setliad datrys cynnar, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb llawn a chyflawn i ymholiadau dilynol Ms A ac i ystyried yr opsiwn o gwrdd â Ms A.