Dyddiad yr Adroddiad

31/01/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202406503

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd ar gyfer ei hiechyd meddwl a’i chyflwr niwrolegol. Yn ogystal, cododd Mrs B bryderon ynghylch peidio â chael ymatebion gan y tîm perthnasol a oedd yn ymwneud â’i gofal.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb i Mrs B, ei bod yn parhau i fod yn aneglur ynghylch rhai agweddau ar y gofal a’r driniaeth a oedd ar gael iddi. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd Mrs B wedi cael ymateb llawn i’w chŵyn a chysylltodd â’r Bwrdd Iechyd, a gytunodd i gymryd y camau canlynol i ddatrys y gŵyn, ac fel dewis arall yn lle ymchwiliad ffurfiol.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb llawn i Mrs B o fewn 4 wythnos. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i egluro, yn ei ymateb, statws unrhyw atgyfeiriadau a wnaed i wasanaethau y tu allan i ardal y Bwrdd Iechyd a chadarnhau statws unrhyw apwyntiadau sydd ar ddod.