Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â gwneud diagnosis i’w ferch, B, o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) – cyflwr sy’n effeithio ar ymddygiad person o ran diffyg sylw a/neu orfywiogrwydd a byrbwylltra) mewn modd amserol gan fod y 2 atgyfeiriad a wnaed i’r Gwasanaeth Integredig ar gyfer Plant ag Anghenion Ychwanegol (“ISCAN”) ym mis Gorffennaf 2019 a mis Gorffennaf 2020 wedi’u gwrthod ac anghywir oedd hynny.
Canfu’r Ombwdsmon fod yr atgyfeiriad cyntaf ym mis Gorffennaf 2019, a wnaed gan Feddyg Teulu B, yn cynnwys gwybodaeth gyfyngedig a dogfennaeth ategol. Daeth i’r casgliad, er y gallai B fod wedi cael ei hasesu o bosibl yn dilyn yr atgyfeiriad hwn, ei fod serch hynny o fewn ystod penderfyniad clinigol rhesymol na chafodd yr atgyfeiriad ei dderbyn y tro hwn. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon y dylai’r ail atgyfeiriad ym mis Gorffennaf 2020 fod wedi’i dderbyn, gan fod nodweddion ADHD yn gliriach yn y ddogfennaeth a bod B yn bodloni’r holl feini prawf o’r rhestr wirio atgyfeirio. Ar ôl i Mr A wneud cwyn i’r Bwrdd Iechyd, aseswyd B gan Nyrs Niwro-ddatblygiad a Seiciatrydd Plant a gwnaed diagnosis o ADHD wedi hynny. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod oedi o 6 mis o leiaf wedi bod cyn cynnig asesiad i B pryd gwnaed diagnosis o ADHD ac na ddylai Mr A wedi gorfod gwneud cwyn ffurfiol er mwyn cael y diagnosis hwn ac i gael y cymorth oedd ei angen ar ei ferch. Roedd hyn yn gyfystyr ag anghyfiawnder sylweddol i Band ei theulu oherwydd y trallod, ond hefyd y diffyg cefnogaeth a thriniaeth, a achoswyd oherwydd i’r ail atgyfeiriad gael ei wrthod. O ganlyniad, gwnaeth yr Ombwdsmon gynnal cwyn Mr A.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mr A o fewn 1 mis i’r adroddiad terfynol. Yng sgil y ffaith bod proses newydd ar waith ar gyfer prosesu a brysbennu atgyfeiriadau niwroddatblygiadol o fewn y Bwrdd Iechyd, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn ei bod yn berthnasol gwneud unrhyw argymhellion penodol mewn perthynas ag atgyfeiriadau niwroddatblygiadol i ISCAN. Fodd bynnag, argymhellodd y dylai’r Bwrdd Iechyd, o fewn 6 mis i’r adroddiad terfynol, adolygu effeithiolrwydd y llwybr atgyfeirio niwroddatblygiadol a roddwyd ar waith ym mis Ebrill 2021 o ran diwallu anghenion plant a phobl ifanc.