Roedd Mrs A wedi cwyno wrth y Bwrdd Iechyd am y gofal a roddwyd i’w phlentyn ifanc gan y Tîm Niwroddatblygu yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Roedd hefyd wedi codi pryderon gyda’r Bwrdd Iechyd drwy ei AS lleol. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi trin pryderon Mrs A fel ymholiad ac wedi ymateb i’r rheini mewn llythyr at yr AS.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y dylai’r Bwrdd Iechyd fod wedi ymchwilio ac ymateb i bryderon Mrs A o dan y trefniadau Gweithio i Wella, yn hytrach na thrin ei phryderon fel ymholiad. Roedd hynny’n gamweinyddu ac yn anghyfiawnder i Mrs A.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymchwilio ac ymateb, yn unol â’r trefniadau Gweithio i Wella, i bryderon Mrs A ac i ymddiheuro am fethu â gwneud hynny yn y lle cyntaf. Cytunodd hefyd i gynnig taliad o £250 i Mrs A i adlewyrchu’r amser a’r drafferth a gafodd wrth fynd ar ôl y mater hwn ac am beidio ag ymchwilio i’r mater ac ymateb iddi i ddechrau o dan y trefniadau Gweithio i Wella. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau hyn cyn pen 3 mis.