Dyddiad yr Adroddiad

16/11/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Cyfeirnod Achos

202201283

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mab, B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) rhwng mis Hydref 2020 a mis Mai 2022. Roedd pryderon Mrs A yn ymwneud ag asesiad B o anhwylder sbectrwm awtistiaeth (“ASD”) a’r cymorth a’r ymyriadau a gafodd gan y Tîm Niwroddatblygiadol (“ND”) a’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (“CAMHS”). Yn benodol, cwynodd Mrs A am yr oedi cyn rhoi diagnosis i B ag ASD yn dilyn y cais am ail asesiad ND, a bod y Bwrdd Iechyd hefyd wedi methu asesu B am Osgoi Galwadau Patholegol (“PDA”) fel rhan o’r asesiad hwn. Ar ben hynny, cwynodd Mrs A y bu, o fis Hydref 2020 ac er gwaethaf diagnosis diweddarach B o ASD, fethiant parhaus gan y Bwrdd Iechyd i argymell, a gweithredu, cymorth ac ymyriadau priodol ar gyfer B. Cwynodd Mrs A hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu cyfathrebu’n ddigonol â hi i egluro’r broses ailasesu a pha gymorth ac ymyriadau y gallai eu cynnig i B.

Canfu’r ymchwiliad, er bod oedi cyn cynnal yr ail asesiad ND, ac felly rhoi diagnosis o ASD i B, roedd oedi o’r fath yn broblem genedlaethol ar draws y GIG cyfan ac nid oedd wedi’i gyfyngu i’r Bwrdd Iechyd hwn nac i’r achos hwn. Er nad oedd yr Ombwdsmon yn esgusodi’r oedi hwn, nid oedd unrhyw arwydd y dylai achos B fod wedi cael ei wthio drwodd yn gynt ar gyfer asesiad ac felly ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agwedd hon ar gŵyn Mrs A. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad hefyd ei bod yn rhesymol nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi asesu B ar gyfer PDA o ystyried ei ddiffyg diffiniad neu statws clir. At hynny, er bod y Bwrdd Iechyd ei hun yn cydnabod bod agweddau cyfathrebu yn fwy cyffredinol y gellid eu gwella, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y ffordd roedd y clinigwyr wedi cyfathrebu â Mrs A, ar y cyfan, yn foddhaol. O ganlyniad, ni chadarnhawyd yr agweddau hyn ar y gŵyn ychwaith. Fodd bynnag, o ran pryderon Mrs A ynghylch y cymorth a’r ymyriadau ar gyfer

ei mab, canfu’r ymchwiliad mai ychydig o ymyrraeth glinigol a wnaed yn ystod y cyfnod cyn diagnosis B ac felly cafodd y gŵyn ei chadarnhau ar y sail honno.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i B a Mrs A am y methiant a nododd yn yr ymchwiliad. Er bod yr Ombwdsmon hefyd wedi argymell i ddechrau y dylai’r Bwrdd Iechyd adolygu ei ganllawiau/prosesau ar gyfer argymell a gweithredu cymorth ac ymyriadau, yn enwedig ar gyfer y rhai a oedd ar y rhestr aros ar gyfer asesiadau ND, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon yn ddiweddarach bod y Bwrdd Iechyd eisoes yn cymryd rhan mewn adolygiad ehangach o Wasanaethau ND ac felly bod camau addas eraill yn cael eu cymryd yn barod.