Cwynodd Miss A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi ymateb i’w neges ebost ynghylch asesu ei merch, a anfonwyd ar 30 Rhagfyr 2023. Dywedodd Miss A nad oedd ei merch wedi cael ei hasesu ar gyfer anhwylderau niwroddatblygiadol amrywiol, fel awtistiaeth, PDA, ADHD, dyslecsia, dyscalcwlia a dyspracsia. O ganlyniad, nid oedd wedi gallu manteisio ar gael diagnosis, triniaeth a chymorth yn gynnar.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ysgrifenedig i ebost Miss A, ynghyd ag ymddiheuriad ysgrifenedig am yr oedi cyn ymateb.