Dyddiad yr Adroddiad

10/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Cyfeirnod Achos

202404618

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y diffyg gofal a chymorth a gafodd ei mab gan ei Therapydd yn ogystal â’r ffordd roedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â chwynion a’r diffyg ymateb i rai o’i galwadau ffôn a’i negeseuon e-bost.
O safbwynt delio â chwynion, canfu’r Ombwdsmon enghreifftiau o gyfathrebu gwael nad oeddent bob amser yn gydnaws â’r Canllawiau Gweithio i Wella. Nododd hefyd faterion yn ymwneud â chadw cofnodion a dogfennu cysylltiadau dros y ffôn gyda’r achwynydd a’i mab.
Fel rhan o ddatrysiad cynnar, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am y diffygion yn y ffordd y mae’n delio â chwynion yn ogystal ag atgoffa’r sawl sy’n ymchwilio i gwynion am bwysigrwydd dogfennu cysylltiadau dros y ffôn ag achwynwyr. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i adolygu achos Mrs A er mwyn nodi meysydd dysgu a gwella a rhannu ei gynllun gweithredu â swyddfa’r Ombwdsmon.