Dyddiad yr Adroddiad

10/02/2025

Achos yn Erbyn

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202408229

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Tachwedd 2024 yn ymwneud â mynediad at wasanaethau meddyg teulu.

Canfu’r Ombwdsmon fod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi darparu ymateb cychwynnol cryno gan gyfeirio Mr A i gyflwyno cwyn i’w Fwrdd Iechyd lleol. Ond, nid oedd wedi ymateb i’r gŵyn yn ymwneud â’i ran yn y materion roedd Mr A wedi cwyno amdanyn nhw. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i ymddiheuro i Mr A am beidio ag ymateb yn briodol i’w gŵyn ac i roi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.