Cwynodd Ms C am y gofal a gafodd gan ei Phractis Meddyg Teulu (“y Practis”) a’u dulliau rheoli, rhwng 23 Hydref 2020 a mis Rhagfyr 2021. Cwynodd fod meddyg teulu (“y Meddyg Teulu Cyntaf”) wedi methu adnabod canlyniad colesterol annormal, a darparu cymorth ac asesiad pan ofynnodd am atchwanegiad maeth. Cwynodd nad oedd meddyg teulu arall (“yr Ail Feddyg Teulu”) a’r Nyrs Asthma wedi gwrando/deall ei chyflwr mewn ymgynghoriad arall, a bod yr Uwch Ymarferydd Nyrsio wedi dweud wrthi am adael yr adeilad ar ôl iddi fynd i’r Practis.
Cwynodd Ms C hefyd am y gofal a’r driniaeth gardioleg a gafodd gan y Bwrdd Iechyd yn 2020, gan ei fod wedi methu nodi bod ei phresenoldeb yn yr Adran Achosion Brys ym mis Hydref/Tachwedd 2020 yn gysylltiedig â chyflwr ei chalon. Cwynodd Ms C na chafodd ei chyfeirio at gardiolegydd, a bod hyn wedi arwain at ddirywiad yn ei hiechyd a’r oedi cyn cael triniaeth. Yn olaf, cwynodd nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn gadarn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal a gafodd Ms C gan y Practis a chan Adran Cardioleg y Bwrdd Iechyd, a’u dulliau rheoli, yn briodol. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon hefyd fod y ffordd y bu i’r Bwrdd Iechyd ddelio â’r gŵyn wedi adlewyrchu’n gywir y gofal a ddarparwyd i Ms C. Ni chafodd cwynion Ms C eu cadarnhau.