Cwynodd Miss X fod y feddygfa wedi methu ag ymateb i’w chŵyn ynghylch nifer o bryderon.
Canfu’r Ombwdsmon fod y feddygfa wedi methu ymateb i gŵyn Miss X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hwn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa y byddai, o fewn tair wythnos, yn ysgrifennu at Miss X i ymddiheuro ac esbonio am yr oedi, ac i ymateb i’r gŵyn.