Dyddiad yr Adroddiad

11/02/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202407536

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod Canolfan Feddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i’w chŵyn a gyflwynodd ym mis Hydref 2024 ynghylch sganiau o’i habdomen.  Cwynodd Ms X hefyd fod y Ganolfan wedi methu â dilyn ei phroses gwynion a’i bod wedi cyhoeddi manylion cyswllt anghywir ar gyfer gwneud cwyn.

 

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Ganolfan Feddygol wedi methu ag ymateb yn ffurfiol i gŵyn Ms A, er ei bod wedi nodi bod y Practis o’r farn bod y mater wedi cael ei ddatrys yn ystod ymgynghoriad gyda meddyg teulu. Dywedodd yr Ombwdsmon fod y diffyg ymateb wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Ganolfan Feddygol i ymateb i gŵyn Ms X o fewn pythefnos.  Dylai’r ymateb gynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi hefyd.