Dyddiad yr Adroddiad

16/10/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202403802

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Feddygfa wedi methu â chysylltu â hi i drafod ei gwiriadau iechyd parhaus ac nad oedd wedi ymateb i’r gŵyn a wnaeth ym mis Medi 2023.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod methiant wedi bod ar ran y Feddygfa i ymateb i’r gŵyn a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i ymddiheuro i Ms X a rhoi ymateb i’w chŵyn, gan fynd i’r afael â’i phryderon gwreiddiol, o fewn 4 wythnos. Cytunodd y Feddygfa hefyd i dalu iawndal ariannol o £75 i Ms X i gydnabod yr oedi.