Dyddiad yr Adroddiad

04/08/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202306798

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss C fod ei Phractis Meddyg Teulu wedi methu ymateb yn briodol ac yn amserol i gŵyn a wnaeth ym mis Chwefror 2023.

Gwelsom nad oedd y weithdrefn gwyno a oedd ar waith ar y pryd yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth berthnasol, a bod y ffordd yr ymdriniwyd â chwyn Miss C yn wael. Ni chafodd ymateb am 9 mis, ac ni chafodd nifer o’i cheisiadau am gyswllt a diweddariadau ar statws ei chwyn eu cydnabod. Roedd y methiannau hyn yn anghyfiawnder i Miss C am eu bod wedi gwaethygu ei theimladau o drallod o amgylchiadau cychwynnol y gŵyn ac wedi gwneud iddi deimlo bod y Practis yn ei hanwybyddu ac yn ei diystyru. Roedd hefyd wedi achosi mwy o amser a thrafferth iddi na’r disgwyl wrth wneud cwyn.

Roedd y Practis wedi newid ei ffordd o ymdrin â chwynion ers adeg y digwyddiadau dan sylw ac wedi dangos bod hyn eisoes wedi cael dylanwad cadarnhaol ar ddatrys cwynion. Fodd bynnag, gwelsom nad oedd unrhyw gamau wedi’u cymryd i wneud iawn am yr anghyfiawnder i Miss C nac i fynd i’r afael yn ddigonol â’r methiannau cyfathrebu parhaus. Yn ogystal, er bod y Practis wedi diwygio ei drefn gwyno, nid oedd y fersiwn newydd yn dal i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Cytunodd y Practis i ymddiheuro i Miss C a chynnig £300 iddi i gydnabod y methiannau cyfathrebu parhaus, ac i ddiwygio ei drefn gwyno newydd i sicrhau ei bod yn cydymffurfio’n llawn â’r rheoliadau cwyno perthnasol. Cytunodd hefyd i ddod o hyd i hyfforddiant delio â chwynion, a’i drefnu ar gyfer aelodau o staff perthnasol, a sicrhau bod holl staff y Practis yn gwbl ymwybodol o’u cyfrifoldebau o ran delio â chwynion.