Dyddiad yr Adroddiad

04/07/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202401136

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y ffordd y deliodd Cymdeithas Tai Hafod â’i chŵyn am ddifrod i’w dodrefn, a oedd, meddai hi, wedi’u difetha gan leithder yn ei thŷ.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas Tai wedi trwsio’r gollyngiad, a oedd yn achosi’r lleithder. Ond ei fod wedi methu â chynnig iawn priodol am y difrod yr oedd y lleithder wedi’i achosi i ddodrefn Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd gytundeb y Cymdeithasau Tai, ac fe wnaethant gytuno i ysgrifennu at Ms A o fewn 20 diwrnod gwaith i ymddiheuro am yr amser a’r drafferth i ddod â’i chŵyn at yr Ombwdsmon, a thalu iawndal o £500 am ddifrod i’w dodrefn oherwydd mowld.