Dyddiad yr Adroddiad

05/08/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202401382

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd y Gymdeithas Tai yn gwrando ar ei gwynion a chwynodd am yr oedi cyn i’r Gymdeithas newid yr inswleiddiad diffygiol yn y wal geudod yn ei floc o fflatiau a delio â llwydni. Dywedodd Mr A, sydd â phroblemau iechyd meddwl, fod ei iechyd corfforol a meddyliol wedi “dirywio’n sylweddol” oherwydd y straen. Cyfeiriodd Mr A hefyd at eiddo (dillad a dodrefn) yn cael ei ddifrodi o ganlyniad i’r lleithder. Cyfeiriodd Mr A at y ffaith nad oedd y Gymdeithas Tai wedi ei ddigolledu am yr eitemau a ddifrodwyd.

Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi gormodol gan y Gymdeithas cyn gwneud gwaith ar yr inswleiddiad diffygiol yn y wal geudod a oedd yn achosi lleithder treiddiol (lle mae lleithder yn symud o wal allanol adeilad i’r tu mewn) a phroblemau eraill. Nododd yr Ombwdsmon fod y Contractwr a ddefnyddiwyd gan y Gymdeithas wedi nodi’r problemau yn gyntaf yn 2022 a gofynnwyd iddo gynnal arolygiad arall ym mis Mawrth 2023 a oedd yn cadarnhau’r un materion. Dechreuwyd y gwaith ar yr inswleiddiad diffygiol yn y wal geudod ym mis Gorffennaf 2024. Dywedodd y Gymdeithas ei bod wedi gwneud newidiadau i’w phroses atgyweirio er mwyn atal oedi tebyg.

Canfu’r Ombwdsmon hefyd y gallai’r cyfathrebu â Mr A am yr oedi fod wedi bod yn well. Roedd cwyn Mr A i’r Gymdeithas Tai wedi rhoi cyfle iddi nodi rhai o’r materion a arweiniodd at yr oedi a chydnabod ac ymddiheuro i Mr A am yr oedi.

Nododd yr Ombwdsmon effeithiau’r gwaith a gafodd ei oedi ar iechyd Mr A.

Nododd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas Tai wedi cynnal ymweliad arolygu mewn ymateb i gŵyn Mr A a chanfu na fyddai diffygion y wal geudod wedi achosi faint o leithder y byddai wedi’i gymryd i ddifrodi eitemau Mr A. Gan nad oedd swyddfa’r Ombwdsmon yn gorff digolledu, ni allai fwrw ymlaen â’r rhan hon o gŵyn Mr A. Yn ddiweddarach, eglurodd Mr A nad oedd yn dymuno cael iawndal, ond ei fod am i’r gwaith gael ei gyflawni.

Fel rhan o’r setliad, cytunodd y Gymdeithas Tai i ymddiheuro i Mr A am yr oedi cyn gwneud y gwaith ac am nad oedd y cyfathrebu ynghylch yr oedi gystal ag y dylai fod wedi bod. Cytunodd hefyd i drefnu archwiliad lleithder a llwydni cyn i’r Gymdeithas ailaddurno fflat Mr A fel arwydd o ewyllys da. Gofynnwyd i’r Gymdeithas atgoffa swyddogion bod angen tystiolaeth ffotograffig mewn achosion lle caiff lleithder neu lwydni eu hadrodd.