Dyddiad yr Adroddiad

20/03/2025

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202407430

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms C nad oedd Cymdeithas Tai Hafod wedi cymryd camau digonol dros gyfnod o bedair blynedd i atal lleithder a llwydni yn ei chartref, a rhoddodd dystiolaeth nad oedd sianel ddraenio wedi cael ei gosod yn iawn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai wedi cymryd camau rhesymol drwy drefnu arolygiad annibynnol a gweithredu ar ganfyddiadau’r adroddiad. Fodd bynnag, cynhaliwyd yr arolygiad yn ystod cyfnod o dywydd cynnes a sych pan oedd tystiolaeth o leithder yn llai amlwg, ac roedd problem gyda’r sianel ddraenio a oedd wedi’i gosod. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i archwilio’r sianel ddraenio o fewn pythefnos a chymryd unrhyw gamau adfer angenrheidiol, ac o fewn tri mis, i gynnal asesiad lleithder arall yn dilyn cyfnod o law trwm.