Cwynodd Miss D fod Cymdeithas Tai Linc Cymru wedi methu â chywiro’r mowld yn ei heiddo.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas wedi ymateb i gŵyn Cam 1 Miss D, bod y Gymdeithas wedi cau ei chŵyn Cam 2 trwy gamgymeriad i ddechrau, heb gymryd unrhyw gamau. Er bod yr Ombwdsmon wedi ailagor y gŵyn Cam 2 ers hynny, canfu’r Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss D ac fe benderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu at Miss D i ymddiheuro am y methiant a nodwyd ac am yr oedi cyn cyhoeddi ymateb, ac i gyhoeddi ymateb Cam 2 i gŵyn o fewn 15 diwrnod gwaith.