Dyddiad yr Adroddiad

14/02/2025

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Linc Cymru

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202408303

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y camau a gymerwyd gan Gymdeithas Tai Linc Cymru (“y Gymdeithas Dai”) i fynd i’r afael â materion lleithder a llwydni yn ei eiddo. Dywedodd fod preswylwyr eraill a oedd yn byw ar lawr gwaelod yr un adeilad wedi mynegi pryderon am faterion tebyg. Mynegodd Mr A bryderon hefyd nad oedd wedi cael gwybodaeth am ei opsiynau i gael llety arall.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas Dai wedi cymryd camau i ymchwilio i’r pryderon a nodwyd gan Mr A, nid oedd yn ymddangos bod cynllun clir i fynd i’r afael ymhellach â’r materion parhaus. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i gwblhau, o fewn 3 wythnos, ymchwiliad llawn i’r pryderon a godwyd gan Mr A ynghylch cyflwr ei eiddo ac i ystyried ei gais am arolwg thermol annibynnol ac archwiliad o’r pibellau a’r lloriau. Hefyd, i ystyried y pryderon a godwyd gan Mr A ynghylch cwynion preswylwyr eraill ynghylch llawr gwaelod yr adeilad. O fewn chwe wythnos, cytunodd y Gymdeithas Dai i ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn, gan gynnwys canlyniad yr ymchwiliadau, i gadarnhau’r cynllun gweithredu ac i amlinellu’r opsiynau sydd ar gael i Mr A ar gyfer llety arall.