Dyddiad yr Adroddiad

14/11/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Taf

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202405560

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cymdeithas Tai Taf wedi methu â datrys nifer o faterion yn eiddo ei fam, gan gynnwys lleithder a llwydni.

Canfu’r Ombwdsmon, er nad oedd y Gymdeithas wedi derbyn cwyn ffurfiol gan Mr X, bod rhai o’r materion wedi’u hadrodd i’r Gymdeithas, ond ei bod wedi methu â chyflawni’r gwaith priodol yn brydlon. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth i Mr X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas y byddai, o fewn 3 wythnos, yn ysgrifennu at Mr X yn amlinellu’r gwaith penodol sy’n dal heb ei gwblhau ac i roi llinell amser glir i Mr X yn nodi pryd y bydd y gwaith angenrheidiol hwn yn cael ei gwblhau.