Cwynodd Mr B ei fod yn anhapus â’r camau a gymerwyd gan Gyngor Caerdydd (“y Cyngor”) ynghylch gwaith atgyweirio i eiddo ei fam. Dywedodd Mr B fod y Cyngor wedi datrys y rhan fwyaf, ond nid pob un, o’r problemau.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi gwneud gwaith i ddatrys rhai materion a oedd heb eu datrys, ei fod wedi cydnabod na ddylai’r eiddo fod wedi cael ei ddyrannu nes bod yr holl faterion wedi cael eu datrys. Ar ben hynny, roedd cwyn newydd wedi cael ei chyflwyno i’r Cyngor ynghylch lleithder a llwydni yn yr ystafell fyw, yr ystafell wely a’r ystafell ymolchi.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gwblhau archwiliad lleithder a llwydni o fewn 2 fis, rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr B am y canfyddiadau a chamau nesaf arfaethedig y Cyngor, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr B am y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma a pha waith sydd ar ôl i’w gwblhau, gydag amserlenni.