Dyddiad yr Adroddiad

21/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202401112

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am gamau gweithredu/diffyg gweithredu Adran Iechyd yr Amgylchedd, yr ymchwiliad a gynhaliwyd mewn perthynas â’i gŵyn ynghylch sŵn a chasgliadau’r ymchwiliad Cam 2 i’r cwynion hyn.

Cymerodd 13 mis i gynnal yr ymchwiliad Cam 2, a oedd yn amhriodol.  Lluniodd Adran Iechyd yr Amgylchedd restr waith gydag amserlenni i’r asiantaeth gosod eiddo ei chwblhau, ond roedd y broses o’i chwblhau’n hirfaith.  Nid yw Gweithdrefn Gorfodi Tai’r Cyngor yn nodi pryd y dylid mynd ar drywydd asiantaethau gosod/landlordiaid a pha bryd y dylid ystyried a/neu gychwyn camau gorfodi.

Felly cytunodd y Cyngor ar y camau canlynol:

  1. O fewn mis bydd y Cyngor yn rhoi ymddiheuriad ystyrlon i Mr A am yr oedi cyn cynnal ymchwiliad Cam 2 ac yn darparu ymateb i’r gŵyn.
  2. O fewn mis, bydd y Cyngor yn talu £250 i Mr A i gydnabod y methiant a nodwyd wrth ddelio â’i gŵyn.

O fewn 3 mis, bydd y Cyngor yn adolygu Adran 8 o’i Weithdrefn Gorfodi Tai i sicrhau, os na chydymffurfir â rhestr waith erbyn y dyddiad cwblhau y cytunwyd arno, y bydd camau gorfodi’n cael eu hystyried o ddifrif a bydd y rhesymeg dros y penderfyniad i gychwyn neu i beidio â chychwyn camau ffurfiol yn cael ei chofnodi.