Dyddiad yr Adroddiad

12/03/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202406444

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir Penfro (“y Cyngor”) wedi methu ag ymchwilio a thrwsio problemau lleithder a llwydni yn ei gartref. Mae problemau parhaus o ran lleithder, yn enwedig yn yr ystafell wely, lle mae’r carped yn wlyb a lle mae llwydni ar y wardrob. O ganlyniad, roedd Mr A a’i wraig yn gorfod cysgu yn yr ystafell fyw. Cwynodd ymhellach am yr uned echdynnu yn yr ystafell ymolchi.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cynnal Ymchwiliad Cam 2 annibynnol, nid yw hyn wedi datrys pethau’n llawn ar gyfer Mr A. Nid yw’n ymddangos bod unrhyw gynnydd wedi’i wneud ers i’r Cyngor gyhoeddi ei ymateb ar 31 Hydref 2024. Mae’n ymddangos bod y cyfathrebu wedi methu. Achosodd hyn oedi a rhwystredigaeth ddiangen i Mr A ac roedd wedi effeithio’n negyddol ar ei iechyd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyfarfod Mr A o fewn 4 wythnos i nodi’r rhestr o faterion yn yr eiddo, ac i gytuno ar ddyddiad sy’n gyfleus i’r Cyngor archwilio’r eiddo. Yn ogystal, cytunodd y Cyngor i ddarparu amserlen o’r gwaith arfaethedig i Mr A o fewn 6 wythnos, gan nodi’r gwaith sydd i’w wneud a phryd y byddai’r gwaith angenrheidiol yn cael ei gwblhau.